Lleoliad:
Cynhadledd fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Tachwedd 2023
Amser:
09.00 -
09.09
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid yn yr Hinsawdd (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar 'Mwy na geiriau 2022-27' (30 munud)
· Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 (10 5 munud)
· Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023 (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023
Trefnwyd y busnes a ganlyn:
Dydd Mercher 10 Ionawr 2024 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad graffu arno, gyda dyddiad terfynol o 1 Mawrth 2024 i gyflwyno adroddiad.
4.2 Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch amserlen Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)
Trafododd y Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Biliau Diwygio a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd yn gwneud cais am slot cyfarfod
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan Bwyllgor y Llywydd iddo allu cwrdd brynhawn dydd Llun 22 Ionawr 2024. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r Pwyllgor barhau i ofyn am slotiau cyfarfod amgen pan fydd angen iddo gwrdd y tu allan i'w slot cyfarfod penodedig.